Cefndir Mudiad Meithrin

Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.

Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.

Erbyn hyn, mae yna 501 o gylchoedd meithrin yn cynnig sesiynau gofal ac addysg ddyddiol ar gyfer plant 2 - 5 mlwydd oed a 49 meithrinfa dydd yn darparu gofal dydd llawn i blant ar draws Cymru. Mae 292 o gylchoedd Ti a Fi ledled Cymru sy’n cynnig cyfle gwych i blant o enedigaeth hyd at oed ysgol a’u rhieni gwrdd unwaith yr wythnos i gymdeithasu ac i rannu profiadau gyda’i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig.  Mae’r gwasanaethau yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 19,000 o blant bob wythnos. 

Mae 145 grŵp ‘Cymraeg i Blant’, sydd yn annog rhieni i gymryd y camau cyntaf tuag at gyflwyno’r Gymraeg i’w plant yn cwrdd mewn lleoliadau ar draws Cymru.  Ers Ebrill 2016, mae 817 o rieni ac 860 plentyn wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn.

O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda’r asiantaeth Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg leol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.

Yn ogystal, mae’r is-gwmni Cam wrth Gam, yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar.  Gwnaed hyn drwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynlluniau hyfforddi cenedlaethol.  Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a dilyswyr mewnol ledled Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl, yn staff cenedlaethol a sirol ac mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000 o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei hunain. 

Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag awdurdodau Lleol.  Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai un o’i phrif amcanion yw creu gweithlu sydd â'r sgiliau priodol i addysgu a darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, felly hoffem glywed eich barn ynghylch y canlynol:

C1  - Gwella’r modd yr ydym yn cynllunio'r gweithlu ac yn cefnogi ymarferwyr ym mhob cyfnod yn y maes addysg.

1.1     Gan ystyried pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i osod sylfeini cadarn ar gyfer y twf angenrheidiol yn nifer y siaradwyr, awgrymwn y dylid cofnodi nifer y plant sydd yn derbyn gofal cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar fel y cam cyntaf tuag at hyn, a gosod targedau i’w cynyddu dros oes y strategaeth. 

1.2     Gwelwn yr angen i normaleiddio ac i brif-ffrydio argaeledd gwasanaethau cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar, gydag ystyriaeth benodol i sicrhau ehangu a chynyddu canran y llefydd Cymraeg o fewn cynlluniau penodol, megis lleoliadau Dechrau’n Deg, i lefelau sy’n gymharus a’r nifer o blant sydd mewn addysg Gymraeg ym mlwyddyn 2 yn yr ysgol Gynradd.  Dengys y data am leoliadau Dechrau’n Deg a gesglir gan fudiad ‘Rhieni dros Addysg Gymraeg’ o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth bod angen buddsoddiad penodol yn y maes yma. 

1.3     Yn y strategaeth ddrafft miliwn o siaradwyr erbyn 2050 (tudalen 12), nodwyd blaenoriaeth i sicrhau cyflenwad digonol o athrawon i addysgu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.  Conglfaen pwysig i ddatblygu ac ehangu capasiti’r sector blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg yw sicrhau gweithlu cymwys sydd yn meddu ar y sgiliau proffesiynol ac ieithyddol (Cymraeg) angenrheidiol.  Gwelwn yr angen i flaenoriaethu cynllunio gweithlu blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau cyflenwad digonol o weithlu gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

1.4     I’r perwyl hwn, cynigiwn fod angen buddsoddiad ariannol er mwyn medru sicrhau cyflenwad digonol o ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n medru darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.  Cynigiwn fod lle i ni gyfrannu i gyflawniad y weledigaeth hon, drwy gyd-weithio i gynnig hyfforddiant dysgu seiliedig ar waith cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, gan adeiladu ar lwyddiannau blaenorol ein his-gwmni hyfforddiant Cam wrth Gam, i ddiwallu’r anghenion hyn.

1.5     Yn ategol, nodwn yr angen i gynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy’r Gymraeg mewn nifer o feysydd a gwasanaethau arbenigol.  Cynigiwn yr angen i flaenoriaethu hyn, er mwyn medru darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg rhagweithiol ar draws y sector cyhoeddus ehangach ac mewn busnesau eraill.  Nodwn yma'r angen i sicrhau datblygu sgiliau Cymraeg staff presennol nifer o wasanaethau cefnogol, megis Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Plant ac Ieuenctid yn gydamserol ag unrhyw gynlluniau i gynyddu capasiti a darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar hyd y gwahanol gyfnodau addysg.

1.6     Mae Mudiad Meithrin yn croesawu datblygiad arfaethedig cymwysterau lefel 4 a lefel 5 i Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr ym maes y blynyddoedd cynnar.   Nodwn yr angen i sicrhau bod y cymwysterau hyn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ag yn Saesneg.

1.7     Yn atodol, nodwn yr angen i sicrhau cyllid i gefnogi awydd y gweithlu blynyddoedd cynnar i ddatblygu sgiliau.  Mae angen cynnig cyfleoedd i ennill y cymwysterau ar lefel gychwynnol ac ar lefel uwch, drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Cymru.  Yn ogystal, nodwn yr angen i ddarparu cyllid er mwyn i’r lleoliadau medru cyflogi staff cyflenwi i ddarparu’r gofal  tra bod staff eraill yn mynychu cyrsiau hyfforddiant.

1.8     Er mwyn medru sefydlu darpariaeth cylch meithrin newydd, mae angen medru cyflogi staff, sydd eisoes yn meddu ar gymhwyster angenrheidiol, sgiliau Cymraeg priodol, ac ar brofiad yn y maes.  Rhaid felly cael mynediad at gyflenwad digonol o staff, cyn medru sefydlu a datblygu lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar newydd. 

1.9     Mae Mudiad Meithrin yn teimlo y byddai sicrhau cynllunio rhagweithiol i’r gweithlu blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg o fantais i sicrhau’r twf y rhagwelir y bydd angen yn y sector.

1.10   Cynigiwn y dylai’r diffiniad o weithlu’r blynyddoedd cynnar cynnwys gweithwyr plant a theuluoedd mewn grwpiau cyn-geni, a grwpiau ar gyfer gwarchodwyr a phlant ifainc.  Dengys data blynyddol Mudiad meithrin bod dros 85% o’r plant sydd yn mynychu cylch meithrin yn trosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg, a bod yn agos at 60% o’r plant sydd yn mynychu’r cylchoedd meithrin yn dod o gartrefi di-Gymraeg.  Amlyga hyn yr angen i barhau i hyrwyddo manteision addysg Gymraeg ymhlith teuluoedd ble na siaredir y Gymraeg.

1.11   Yn atodol, dengys data trosglwyddo rhyngenedlaethol cyfrifiad 2011 pwysigrwydd parhau i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg i deuluoedd ble siaredir Cymraeg gan un neu fwy o rieni.  Noder bod 20% o aelwydydd ble siaredir Cymraeg gan y ddau riant, ddim yn trosglwyddo’r iaith i’w plant yn y cartref.  Cynyddir y ganran hon yn sylweddol ble dim ond un rhiant sydd yn medru’r Gymraeg.

1.12   Gan gydnabod pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar i  ‘greu’ siaradwyr Cymraeg newydd, teimlwn fod angen ymgyrch cenedlaethol i hyrwyddo’r manteision hyn i bob rhiant newydd a darpar riant yng Nghymru.  Gweler cynsail i ymgyrch o’r fath yn y cynllun ‘plant’, sydd yn plannu coed yn enw pob plentyn sy’n cael ei eni yng Nghymru.  Cynigiwn y byddai defnyddio’r data genedigaethau i gysylltu gyda phob rhiant newydd i hyrwyddo manteision dwyieithrwydd ac addysg Gymraeg, mewn ffordd debyg i’r uchod, yn ffordd o sicrhau cyswllt gyda phob teulu yng Nghymru.

1.13   Amlyga’r pwyntiau uchod bwysigrwydd cynllunio'r gweithlu a chefnogi ymarferwyr i ddarparu gwasanaethau a chynnig cyfleoedd yn y Gymraeg ym mhob cyfnod yn natblygiad cynnar plentyn.  Teimlwn fod y maes hwn yn cynnwys gweithwyr cefnogi teuluoedd, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, ac arweinwyr grwpiau i blant a’u teuluoedd.

C2  - Sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc.

2.1     Mae Mudiad Meithrin yn cytuno gyda’r nod o gynyddu’r capasiti i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, a’r angen i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn cynllunio’n rhagweithiol i wneud hyn drwy’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

2.2     Croesawn y gydnabyddiaeth sydd yn y strategaeth ddrafft fod y blynyddoedd cynnar yn gyfnod hanfodol yn nhaith plentyn tuag at ruglder yn y Gymraeg.  Credwn mai’r blynyddoedd cynnar yw’r allwedd at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, gan ddwyn perswâd ar fwy o rieni a theuluoedd i ddewis gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg i’r plant.  Ar sail hyn, cynigiwn yr angen i flaenoriaethu cynyddu nifer y plant sydd yn derbyn gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg fel rhan o feysydd datblygu’r strategaeth hon.

2.3     Cydnabu'r Llywodraeth fod y blynyddoedd cynnar yn gyfnod hanfodol yn nhaith plentyn tuag at ruglder yn y Gymraeg (tudalen 3 y ddogfen ymgynghori).  Cynigiwn fod angen rhoi sylw i ystyriaethau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn ogystal â’r maes datblygu addysg sy’n cyfeirio at addysg statudol. 

2.4     Serch hynny, nid yw’r byd addysg yn gweithredu mewn gwactod.  Teimlwn fod angen mwy o bwyslais ar yr angen i gynllunio’n rhagweithiol i ddarparu gwasanaethau gofal cyfrwng Cymraeg, boed yn gylchoedd meithrin, yn feithrinfeydd dydd, yn ofalwyr plant neu yn glybiau gwyliau ac ar ôl ysgol er mwyn gwir diwallu’r anghenion hyn. 

2.5     Wrth ystyried y cynnydd arfaethedig yr oriau gofal plant rhad ac am ddim (30 awr) fydd yn cael eu cynnig i nifer o deuluoedd, amlygir yr angen i sicrhau tegwch i’r sawl sydd am dderbyn gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.  Nodwn yr angen i sicrhau trafodaethau a chyd-weithio ar draws y sectorau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau gweithredu’r cynnig o 30 awr o ofal i blant 3 a 4 oed rhieni sy’n gweithio er mwyn medru diwallu gofynion unigol y teuluoedd. Rhaid sicrhau cynllunio’n gywir i ddiwallu’r cynnydd arfaethedig hyn, gan sicrhau fod 30 awr o ofal cyfrwng Cymraeg ar gael i’r sawl sydd yn ei ddewis. Teimlwn nad ydy cynllunio i ateb y galw yn unig yn cynnig digon o gyfleoedd i ddenu defnyddwyr newydd i’r gwasanaethau hyn.

2.6     Teimlwn fod datblygiad y gyfres newydd o gymwysterau ar gyfer y sector iechyd a gofal, sydd eisoes ar y gweill gan Gymwysterau Cymru, yn cynnig cyfle euraidd i ddatblygu cyfres o gymwysterau ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar sydd yn eu paratoi a’u galluogi i ddarparu gwasanaeth Cymraeg a Chymreig pwrpasol.

2.7     Mae dogfen ymgynghorol y strategaeth Gymraeg newydd yn nodi y byddai angen tua 331 o ddosbarthiadau cyfrwng Cymraeg newydd i gefnogi gweledigaeth y strategaeth.  Mae Mudiad Meithrin yn amcangyfrif y byddai angen sefydlu dros 650 o gylchoedd meithrin newydd i sicrhau twf cyfatebol yn y ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru.

2.8     Er mwyn medru sefydlu a datblygu’r cylchoedd meithrin newydd, mae angen buddsoddiad cyllid a chyfalaf cychwynnol.  Amcangyfrifwn fod angen tua £17,00 i  sefydlu cylch meithrin newydd, ac nid yw hyn yn cynnwys costau cyflogaeth y staff.  Mae gofyn i  ddyblu’r ddarpariaeth bresennol yn gofyn am fuddsoddiad ariannol clir dros y degawdau nesaf.

2.9     Yn atodol, wrth sefydlu lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar o’r newydd, mae angen sicrhau cyflenwad digonol o staff i’w cynnal.  Rydym yn amcangyfrif y bydd angen hyfforddi tua 160 o aelodau newydd i’r gweithlu blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg pob blwyddyn, yn ychwanegol i’r trefniadau hyfforddi cyfredol.

2.10   I ddiwallu’r anghenion gweithlu hyn, nodwn yr angen i sicrhau bod sefydliadau ledled Cymru yn darparu cyfleoedd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg ym maes y blynyddoedd cynnar i ddysgwyr. 

2.11   Ategwn yma'r angen i sicrhau bod nifer o aseswyr sydd ag arbenigedd proffesiynol yn y maes yn medru asesu dysgwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, gan nad yw hi’n bosib cynnal asesiad ymarferol mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg os nad yw’r asesydd yn medru’r iaith.  Yn atodol, wrth ddatblygu’r cynnig hwn, rhaid sicrhau bod gan y corff neu’r cyrff dyfarnu'r gallu i ymateb i ymholiadau ysgrifenedig a llafar yn Gymraeg yn ogystal â darparu fersiynau Cymraeg o unrhyw ddogfennau ac adnoddau dysgu eraill maent yn eu datblygu.

2.12   Teimlwn fod angen sicrhau bod cynlluniau hyfforddi gweithlu’r blynyddoedd cynnar yn ystyried y bydd angen i ychwanegu cynifer o ymarferwyr sy’n medru’r Gymraeg i’r gweithlu dros y blynyddoedd nesaf.  Nodwn y gall hyn golygu gosod targedau pendant ac uchelgeisiol i ddarparwyr hyfforddiant yn y maes i sicrhau sgiliau Cymraeg perthnasol gan y gweithlu wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd.